Croeso i Pathfinders Cymru
Mae Pathfinders Cymru yn elusen lleol a gymunedol, sy'n gefnogi plant a phobl ifanc sydd a heriau dysgu, niwroamrywiaeth ac anghenion ychwanegol.
Credwn bod phob person yn haeddu lle lle mae nhw'n teimlo'n ddiogel, yn gael eu gwerthfawrogi, ac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain. Dyna pam rydyn ni'n creu mannau cynhwysol a gweithgareddau sy'n cael eu harwain gan ddiddordebau, wedi'u cynllunio i osgoi unigedd, magu hyder a dathlu cryfderau - nid labeli.
​
Rydyn ni'n gwrthod pob math o arwahanu. Mae ein gweithgareddau ar agor i bawb - gan greu mannau lle gall pobl ifanc sydd â heriau dysgu a rhai hebddynt gysylltu, magu cyfeillgarwch a thyfu mewn dealltwriaeth a pharch.
​
O fannau synhwyraidd a gweithdai adeiladu sgiliau, i brosiectau gwirfoddoli a menter â chymorth, mae ein gwaith wedi'i cynllunio trwy brofiad byw ac wedi'i wreiddio yn y gymuned.
​
Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu dyfodol o gynhwysiant ystyrlon i bawb.
​
​
​
​



Ein Cenhadaeth
Yn Pathfinders Cymru, ein cenhadaeth yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â heriau dysgu — gan gynnwys niwroamrywiaeth, anhwylder pryder, ac Osgoi Ysgol am Resymau Emosiynau— yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi a'u dathlu'n llawn yn eu cymunedau.
​
Credwn fod pob person ifanc yn dod â thalentau unigryw a rhinweddau bywiog sy'n cyfoethogi cymdeithas. Trwy weithgareddau cynhwysol a gwirfoddoli ystyrlon - o redeg mannau cymunedol fel llyfrgelloedd a gerddi i arwain clybiau cymdeithasol a grwpiau coginio - rydym yn creu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, ac adeiladu cysylltiadau parhaol.
Boed trwy bartneriaethau ag ysgolion neu gydweithio â theuluoedd sy'n addysgu gartref, rydym yn gweithio i ddymchwel y rhwystrau sy'n cadw pobl ifanc â heriau dysgu yn ynysig, wedi'u hymylu, neu wedi'u heithrio o fywyd cymunedol.
Rydym yn gweithio tuag at ddyfodol lle mae cynhwysiant yn arferol - cymdeithas mor deg a derbyniol fel nad oes angen sefydliadau fel Pathfinders Cymru mwyach.
Gweledigaeth:
Cymru lle mae gan bob person ifanc, waeth beth fo'u gallu neu eu cefndir, y cyfle i lunio eu dyfodol gyda hyder a chymuned.
Gwerthoedd Craidd:
Cynhwysiant dros arwahanu
Arweinyddiaeth profiad byw
Cynnydd sy'n canolbwyntio ar y person
Darparu wedi'i wreiddio yn y gymuned
Urddas a pharch i bawb
​
​